Ydi Awdurdodau Lleol Cymru a chymunedau Sipsi, Roma a Theithwyr yn llwyddo i weithio gyda’i gilydd yn llwyddiannus i a) adnabod safleoedd preswyl a thros dro cynaliadwy

Mae CBSMT yn gweithio yn agos gyda chymunedau ST I adnabod yr angen posib am safleoedd diwylliannol lleol. Ar hyn o bryd nid oes angen ymestyn ein 24 safle ar Glynmil. Bydd  CBSMT yn cynnal ei hasesiad PST yn 2023 yn dilyn yr asesiad diwethaf yn 2018. Ar hyn o bryd mae CBSMT yn adnewyddu ein safle presennol gyda Grant Cyfalaf Safle. Mae Glyn mil bellach yn safle 24 llain ar gyfer  Sipsiwn a |Theithwyr gyda chanolfan gymunedol. Arwyddodd CBSMT les wythdeg mlynedd ar Dachwedd 1af 2020.Mae’r les newydd yn unigryw i bob safle arall yng Nghymru ac yn dilyn ystyriaeth ofalus, penderfynodd CBSMT er lles y gymuned gymryd cyfrifoldeb am reoli'r safle gan sicrhau bod lleisiau preswylwyr a chymdogion lleol yn cael ei chlywed am ble maen yn byw, a sut mae’r safle yn cael ei datblygu er mwyn sicrhau lles a chydymffurfio gyda’r CDLl. Mae’r safle wedi gweld newidiadau sylweddol ers Tachwedd 2020, ac wedi amlygu sawl her i GBSMT. Fel rhan o’r datrysiad i reoli newid, gwnaeth CBSMT gais am gyllid trwy grant Cyllid Safleoedd Llywodraeth Cymru. Mae’r project wedi ei gynllunio mewn nifer o gyfnodau y gellir ei rheoli. Mae Cynllun wedi ei greu gan Capita ar gyfer y weledigaeth hir dymor ar gyfer y safle a’r preswylwyr. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno I LC er mwyn ceisio am gyllid hir dymor. Ym mis Ionawr 2021 dyfarnwyd cyllid o £500,000 gan Lywodraeth Cymru i adnewyddu'r 24 bloc cyfleusterau ar y safle. Trwy arian cyllid safle, mae CBSMT yn gallu cynnig tai modern o safon uchel, ynni effeithlon sydd yn parchu ffordd o fyw ein cymunedau Sipsi a Theithwyr yn y Fwrdeistref. Mae CBSMT yn cyflogi Rheolwr Safle a Warden Safle sy’n byw ar y safle er mwyn sicrhau bod y safle yn ddigonol , diogel ac yn cydymffurfio gyda rheolau.

b) trafodwch anghenion llety Sipsiwn, Roma a Theithwyr?

Nid oes gan bob ALl y staff i reoli'r berthynas gyda chymunedau. Gall rhwystrau fod nad yw'r rolau yn benodol I GTR, dim cyfleusterau cymunedol na swyddfa staff ar safle a diffyg hyfforddiant ymwybyddiaeth CTR.

2. Bwriad Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr (ALlST) yw asesu anghenion llety'r Gymuned Sipsi, Roma a Theithwyr. Yn eich barn yw awdurdodau lleol yng Nghymru yn gweithredu, monitro ac adolygu ALlST yn effeithiol? Mae’r AllST yn gymharol gostus gyda’r rhan fwyaf o awdurdodau yn cyflogi ymgynghorwyr i wneud yr ymchwil. Gyda’r cyswllt cywir gellid casglu'r wybodaeth yn fwy llyfn trwy gydweithio gyda chymunedau a phreswylwyr. Yn hytrach na chael ei gwneud bob pum mlynedd gellid gwneud yr asesiad yn debyg i’r cyfri carafanau ar-lein.

3. Yw’r fframwaith  a pholisi statudol presennol yn sicrhau bod digon o safleoedd parhaol a dros dro yng Nghymru ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr o fewn yr awdurdodau lleol? 

Nid yw’r fframwaith polisi presennol yn rhoi digon o gyfrifoldeb ar All I ddarparu cartrefi diwylliannol. Mae addysgu ar brynu tir yn bwysig, bled ylid darparu tir ar safleoedd gwyrdd. Mae’r fframwaith presennol yn cefnogi pob cymuned sy’n dymuno byw bywyd crwydrol nid dim ond cymunedau lleiafrifol, sy’n gwneud anghenion cymunedau Sipsi a Theithwyr yn aneglur. Mae anghenion Sipsiwn a Theithwyr yn wahanol I Roma  a chymunedau eraill. Mae darparu safleoedd ALl yn niweidiol i deuluoedd sy eisiau byw bywyd crwydrol.

Beth yw'r heriau i awdurdodau lleol yng Nghymru a Llywodraeth Cymru wrth ddarparu safleoedd digonol ar gyfer cymunedau Sipsiwn , Teithwyr a Roma?

Y prif faterion yw staffio, delio gyda hen ddata a’r norm. Mae diffyg dealltwriaeth o anghenion diwylliant ac ymarferion y cymunedau ST. Mae angen staff gwybodus y mae’r gymuned yn ymddiried ynddynt. Mae gwneud ceisiadau am gyllid yn gostus ac fel arfer yn cael ei wneud yn allanol gan gostio mwy i ALl.

5. Ydych chi’n rhagweld pan/ os daw Mesur Llysoedd, Dedfrydu a Throsedd yr Heddlu Llywodraeth y DU I rym y bydd: a) Heriau penodol i’w goresgyn,

Ar hyn o bryd nid oes safleoedd dros dro o fewn Cymru, gyda llawer o awdurdodau yn gwario arian ar symud gwersylloedd dros dro. |Y prif fater gyda safleoedd dros dro yw staffio, dod o hyd i ddigon o dir, rheoli'r safleoedd ond hefyd y broses gostus hirfaith o wneud cais am gyllid. Mae safleoedd dros dro rhanbarthol wedi ei hystyried sydd ddim yn cael ei reoli gan un Awdurdod Lleol; ond mae diffyg staff arbenigol a dim Fforwm Llety Sipsiwn a Theithwyr ers cyn y pandemig wedi achosi diffyg brys. Mae diffyg nifer staffio digonol yn LlC wedi creu diffyg ysgogiad neu ddealltwriaeth mewn ALl. Mewn

Mewn rhai lleoliadau yng Nghymru, mewn perthynas â safleoedd Sipsiwn, Teithwyr a Roma?

Bydd y mesur newydd yn annog ALl i sicrhau bod digon o fannau aros a chreu brys ar gyfer yr angen am safleoedd dros dro posib o fewn rhanbarthau neu ALl

6. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ychwanegol am y ddarpariaeth llety yng |Nghymru ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr?

Mae angen i dimau ystâd a chynllunio ALl adnabod tir ar gyfer Sipsiwn/Teithwyr I brynu tir er mwyn darparu lle digonol ar dir gwyrdd. Ar hyn o bryd mae tir yn cael ei werthu yn rhad na sy’n addas ar gyfer ei ddefnyddio gan achosi pob math o bryder ar gyfer teuluoedd sydd angen prynu tir er mwyn byw ei ffordd o fyw hwy. Yn anffodus o dan y ddeddfwriaeth bresennol, rydym yn gweld mwy o deuluoedd yn byw ar fudd daliadau oherwydd y gost o fyw ar dir yr ALl. Er enghraifft y gost o fyw mewn carafán ar safle wedi ei rentu yw £720 y mis. Mae hyn yn cyfateb i fyw na rhentu tŷ o fewn y fwrdeistref. Ar ben hyn, mae Sipsiwn/Teithwyr yn gorfod talu cyfraddau ynni masnachol a ddim yn gallu hawlio trethi domestig. Oherwydd ei bod yn byw ar safle Awdurdod Lleol rhaid gadael yr eiddo am gyfanswm o 2 wythnos neu bydd y budd dal yn cael ei golli, sy’n mynd yn groes i arferion a thraddodiad byw bywyd symudol. Fel y mae nid yw’r fframwaith presennol yn hyrwyddo ffordd o fyw sy’n addas i’r gymuned hon.